Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 15, 2011

Colli’r Cynghorau Bach

Roedd digon o gwyno pan gollwyd hen siroedd Cymru dros 30 mlynedd yn ôl. Ond mae wedi cymryd tan argyfwng ariannol 2011 i bobl ddechrau ystyried o ddifri cael gwared ar gynghorau bychain Asturias. Gwrandwch yn ofalus:  y rhai sydd â llai na mil o drigolion. Ie, 1,000.

Casgliadau o bentrefi yn ucheldiroedd y Picos de Europa neu ym mherfeddion gorllewin Asturias sy’n ffurfio’r cynghorau yma – ond yn aml mae’r pentrefi hynny wedi bod yn feistri ar eu bydoedd bach eu huanin ers canrifoedd. Yr adeg hynny, wrth gwrs, doedd neb ‘pwysig’ yn boddran dod yr holl ffordd o Oviedo i ddweud y drefn. Ond yn awr maen nhw’n derbyn arian o’r dreth gyffredin, ac felly wedi dod yn darged ar gyfer arbed arian.

Yr ymateb gan y cynghorau yw eu bod eisoes yn rhannu pobl fel gweithwyr cymdeithasol a thechnegwyr cynllunio. Ac y byddai’n costio llawer mwy i gael rhywun o bell i ddod i wneud y gwaith. Ond yn wir mae’n anodd gweld sut y gallan nhw gadw ymlaen fel rhan o gyfundrefn sydd hefyd yn cynnwys y dinasoedd mawrion. Byddwn i’n disgwyl eu gweld yn rhywbeth tebycach i gynghorau plwyf o fewn blwyddynn neu dair.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: