Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 19, 2011

Cofio Lorca

75 mlynedd yn ôl i heddiw, yn ôl y traddodiad, y cafodd prifardd – a phrif ddramodydd – Sbaeneg yr ugeinfed ganrif ei saethu’n farw gan filwyr Franco a’i gladdu mewn ffos di-enw y tu fâs i ddinas Granada. Federico García Lorca. Dim ond mis ar ôl dechrau Rhyfel Sbaen, pan wrthryfelodd Franco a’i filwyr yn erbyn llywodraeth y weriniaeth.  Fel gweriniaethwr, dyn hoyw, a dyn deallus (gair gwell i gyfleu intellectual, unrhyw un?) roedd e’n darged i ddynion oedd am gadw Sbaen fel yr oedd hi wedi bod ers canrifoedd. o dan reolaeth y goron, y fyddin a’r eglwys.

Dechreuodd ei yrfa yn astudio cerddoriaeth, bu’n gyfaill i Manuel de Falla a Salvador Dalí, a hanfod diwylliant Andalucia oedd hanfod ei waith ym mha bynnag celfyddyd. Casglodd caneuon canol-oesol, ysgrifennodd dramau fel Priodas mewn Gwaed a Tŷ Bernarda Alba sydd hyd heddiw yn gallu hala ofn ar rywun yn y ffordd y maen nhw’n portreadu cymdeithas gul gaeedig sydd ar yr un pryd yn llawn angerdd.

Ond roedd e hefyd yn gwybod sut i fynegi angerdd personol. Marwnad Ignacio Sánchez Mejías, gyda’r llinell Eran las cinco de la tarde – roedd hi’n bump o’r gloch y prynhawn – yn cael ei hail-adrodd drwyddo, yw, yn fy marn i, un o’r goreuon mewn unrhyw iaith.

 

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: