Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 21, 2011

Teirw yn y Stryd

Bous al carrer, yn iaith Cymuned Valencia yn ne-ddwyrain Sbaen. Rhywbeth tebyg i ŵyl enwog sanfermines Pamplona, ond ar raddfa llawer llai. Mae’r teirw, neu ar achlysuron eraill gwartheg, yn cael rhedeg yn rhydd drwy stryd pentref yn ystod y fiesta lleol. Mae trigolion ac ymwelwyr yn cael rhedeg o’u blaenau nhw, hyd yn oed yn eu plith nhw. Weithiau, mae pobl yn cael niwed.

Eleni, mae nifer y gwyliau bous al carrer wedi codi 25%, ar ôl gostyngiad yn y ddwy flynedd flaenorol. Amcangyfrifir y gallai’r nifer gyrraedd 7000. Ac mae llai o bobl yn cael eu niweidio – ryw 500 y llynedd. Ond yn gynharach y mis yma fe laddwyd dyn ifanc gan darw o’r enw Ratón (llygoden) ac unwaith eto mae galw am reolau cryfach i atal meddwon rhag cymryd rhan yn y rhedeg. Mae’r cyfryngau y tu fâs i Sbaen wedi galw ‘llofrudd’ ar y tarw yn yr achos yma, ond yn ôl y gymdeithas hawliau anifeiliaid, nid y tarw sydd ar fai, gan nad yw’r anifail yn dewis bod yn y stryd yng nghanol tyrfa a sŵn.

Ond ar y llaw arall, mae perchennog tarw sydd wedi lladd rhywun yn elwa. Maen nhw’n gallu codi mwy am anfon yr anifail i’r ŵyl nesaf, a threfnwyr yr ŵyl honno yn codi mwy ar yr ymwelwyr sydd am ei mentro hi ymysg y teirw. Bydd Ratón yn ymddangos eto sawl tro cyn diwedd y tymor, ac mae’n siwr y bydd y camerâu yn ei ddilyn.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: