Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 22, 2011

Allforio: Allwedd yr Argyfwng?

Mae economi mewnol Sbaen yn dal i orwedd yn ei wely heb wella dim. Cam diweddaraf y llywodraeth yn Madrid oedd haneru graddfa TAW (VAT) ar gartrefi newydd. Rhy fuan i ddweud a fydd hwn yn cael yr effaith a fwriadwyd, ac eisoes wedi ei feirniadu am fethu a helpu’r cannoedd o filoedd sydd yn ffaelu â thalu’r morgais yn barod. Ond dyw e ddim yn edrych yn debyg y gwelwn ni gynnydd mawr yn nifer y teuluoedd sy’n rhuthro i’r siopau i brynu celfi ac ati i’r tŷ newydd.

Ond o adael y bobl druan naill llaw, ac edrych ar gwmniau, fe welir bod y rhai sy’n allforio nwyddau yn gwneud yn dda ac yn gwella. Mae ffigyrau yn y papurau heddiw yn dangos bod cyfanswm yr hyn a werthwyd i wledydd cyfoethog eraill (gwledydd yr OECD, y Sefydliad dros Gydweithrediad a Datblygiad Economaidd) yn ystod ail dymor (Ebrill-Mehefin) 2011 yn fwy na’r hyn a brynwyd am y tro cyntaf erioed. Pa fath o beth sy’n gwerthu? Peiriannau ar gyfer ffatrioedd, offer ynni haul a gwynt, ceir a rhannau ceir, bwyd a chemegau (ddim gyda’i gilydd gobeithio). Mae gwasanaethau – pethau fel twristiaeth ac yswiriant – yn isel ar y rhestr.

Ond ai so far so good yw hi? Am ba mor hir y bydd yr Unol Daleithiau, neu wledydd yr UE, yn gallu fforddio prynu ar y raddfa uchel hon? A dylid nodi hefyd nad yw masnach Sbaen gyda gweddill y byd mor llwyddiannus: a hynny am un rheswm – olew. Bydd angen lot mwy o melinau gwynt a cheir trydan i newid yr ystadegau hynny.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: