Unwaith eto mae lle a dyfodol y blaidd ar fynyddoedd Asturias yn destun dadl. Dechreuwn yn y dechreuad. Rhyw 250-300 o fleiddiaid sydd yma nawr, ar ôl 30 mlynedd heb gael eu hela. Mae’r rhan fwyaf yn byw yn y mynyddoedd uchaf fel y Picos de Europa, ac yn cael eu defnyddio gan awdurdodau Parc y Picos i ddenu ymwelwyr. Ond wrth gwrs maen nhw’n lladd da byw, felly bob blwyddyn mae llywodraeth Asturias yn talu iawndal i ffermwyr ac yn trefnu lladd hyn-a-hyn o fleiddiaid er mwyn cadw’r boblogaeth heb gynyddu’n ormodol: wardeiniaid sydd yn mynd i’w saethu.
Llywydd newydd llywodraeth Asturias yw Francisco Cascos. Heliwr o fri, ac yn barod wedi dweud y dylid rhoi’r blaidd ar restr yr anifeiliaid y gellir eu hela’n gyfreithlon. Yn awr mae rhai o ffermwyr mynydd y Picos yn gofyn i’r newid ymestyn i fewn i’r Parc Cenedlaethol, rhywbeth a fyddai’n hollol groes i ddibenion amgylchedd a thwristiaeth yr awdurdod.
Am y tro cyntaf imi gofio, mae amddiffynwyr y blaidd wedi bod yn amlwg yng ngholofnau sylwadau’r cyfryngau. Yn ymosod ar y ffermwyr hyd yn oed, gan bwyntio mâs nad yw’r rhan fwyaf, mwyach, yn byw gyda’u hanifeiliaid ar y mynydd yn ystod tymor pori’r haf.
Yn yr hen ddyddiau, medden nhw, roedd y da byw, boed yn wartheg, yn eifr neu’n ddefaid, yn cael eu bugeilio. Byddai rhai o ddynion y teulu, a weithiau teulu cyfan, yn byw mewn caban am bedwar neu bum mis, a rhyngddyn nhw a’r cŵn defaid mawr, y mastines, yn cadw’r blaidd draw. Yn awr, pan fydd llawer o’r ffermwyr yn byw’n gyffyrddus yn eu pentrefi ac yn gyrru lan i’r porfeydd unwaith yr wythnos, digon hawdd i’r bleiddiaid gymryd mantais o’u habsenoldeb i ddewis llo a’i gwrso fe i le serth caregog sydd heb ddihangfa iddo.
Ond nid amddiffynwyr yr amgylchedd sydd mewn grym: Cascos yw hwnnw, a rwy’n siŵr y byddai ef yn hapus iawn yn cael gyrru ar hyd lethrau’r Picos mewn todoterreno (SUV), yn ceisio saethu bleiddiaid.
Gadael Ymateb