Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 24, 2011

Arth ar Dramp

Ddoe, bygythiad newydd i’r blaidd yn Asturias a hyd yn oed o fewn Parc Cenedlaethol y Picos de Europa. Heddiw, daeth gwybodaeth (o ble? o lywodraeth newydd Cascos mae’n debyg) bod y llywodraeth sosialaidd gynt wedi trafod rhoi nifer o eirth Asturias i awdurdodau mynyddoedd y Pirineos.

Mae’r cynllun i hybu niferoedd yr arth frown ar hyd y Cordillera Cantábrica (y mynyddoedd sy’n cynnwys y Picos de Europa) wedi bod yn eithaf llwyddiannus. Yng ngorllewin Asturias, a thros y ffin yng ngogledd-orllewin León ac yn nhalaith Lugo, mae’r nifer wedi codi i ryw 150, gyda dros 20 o famau eirth bob blwyddyn. Ond yn y dwyrain, dim ond 20-30 sydd ar ôl. Yn awr o dan gynllun UE o’r enw Life, fe drafodwyd sut y gellid symud eirth i’r Pirineos, lle mae’r arth frodorol wedi marw mâs. Yr unig eirth sydd yno’n awr yw’r rhai a ddaeth i fewn o dan cynllun tebyg o Slofenia, ond mae rhai Sbaen yn agosach o ran tras i’r rhai gwreiddiol.

Mae peth gwrthwynebiad i’r syniad,  yn rhannol oherwydd bod helwyr Ffrainc yn tueddu i anwybyddu rheolau a saethu eirth: nhw laddodd y diwethaf o’r boblogaeth frodorol. Ond yn wir, os yw’r tŵf yn y boblogaeth yng ngorllewin Asturias wedi bod cystal, efallai ei bod hi’n iawn danfon 3 neu 4, os bydd yr helwyr yn addo bihafio.

Nôl at Cascos y daw: gan nad yw’r cynllun wedi cael ei gyflwyno yn Brwsel eto, mae ganddo’r hawl i ddweud ‘Na’.  Ac mi fyddai hynny’n ffitio’n dda gyda’i syniadaeth o Asturias o flaen pawb arall – cadw ein heirth ni – ac yn arbed arian.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: