Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 25, 2011

Pigion Amgylchedd Asturias

Ni fydd eirth o Asturias yn cael eu symud i’r Pirineos wedi’r cwbwl. Mae llywodraeth Cascos wedi gwrthod mynd ymlaen â’r cynllun oherwydd nad yw’n credu bod y cynnydd a fu yn y boblogaeth yma yn ddigonol i allu fforddio colli 3 neu 4. Grwpiau ecolegwyr i gyd yn cefnogi’r penderfyniad, gan ddweud y byddai’n well defnyddio’r arian (os o gwbwl) ar symud un neu ddwy arthes o orllewin Asturias i’r dwyrain i hybu’r boblogaeth yno.

Cwyno mawr yn ardal San Roque yn Llanes ynglŷn â gweithred diweddaraf y cwmniau sy’n adeiladu’r draffordd. Maen nhw wedi torri lawr hen dderwen oedd yn sefyll ar ei phen ei hun, yr olaf medden nhw o hen goedwig gynefin. Mae traddodiad lleol yn dweud bod gweddill y coed wedi eu torri ar gyfer gwaith adeiladu heol nôl yn y 18fed ganrif, ond bod addewid ar y pryd na fyddai hon yn cael ei chyffwrdd fyth.

Bu ymdrochwyr traethau dwyrain Asturias yn cwyno am slefrod môr sy’n pigo. Yn ffodus dydyn nhw ddim yn beryglus nac yn boenus iawn: danadl y môr maen nhw’n cael eu galw ffordd hyn.

Mae ffermwyr a chynghorwyr ardal Ponga, i’r gorllewin o’r Picos, eisiau cael gwared ar gyfarwyddwr eu Parc Naturiol – am nad yw e’n fodlon gweld heolydd drwy rhai o’r ardaloedd mynyddig. Maen nhw’n dweud bod angen mynd lan i’r porfeydd uchaf mewn cerbydau. Maen nhw hefyd eisiau heol dros y mynyddoedd i León, ar lwybr hen ffordd gerrig sydd yno ers canrifoedd.

 


Gadael sylw

Categorïau