Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 26, 2011

Elwa o Wyliau 1

Rhwng heno a nos Sul, bydd 150,000 yn fwy o geir na’r arfer ar heolydd a thraffyrdd Asturias. Dyna ddisgwyliad heddlu’r heolydd, sydd wrthi’n atgoffa pobl lle mae’r problemau mawr. (Heb newid ers y llynedd.)

Achos maen nhw’n ein gadael ni, ein hymwelwyr hafaidd, yn brysio nôl tua Madrid neu Burgos neu Wlad y Basg, Am ryw fis arall fe fydd ychydig o bobl wedi ymddeol a thramorwyr yn dal i basio drwodd, ac eleni bydd perchnogion y tai bwyta a’r gwestyau yn falch iawn o’u gweld nhw. Mae cymaint o fusnesau tebyg yn awr yn ceisio gwneud elw blwyddyn mewn deufis, fyddwn i ddim yn synnu gweld rhai yn mynd i’r wal ar ôl yr haf siomedig o wlyb a gawsom.

haf siomedig 2011 ffoto:cathasturias

Daeth yr amser, unwaith eto, i gloriannu’r diwydiant twristiaeth ac awgrymu gwelliannau. Yn gyntaf, y Cynlluniau Mawreddog: ar y cyfan, nid yw’r rhain wedi cyrraedd uchelderau prosiectau tebyg mewn gwledydd neu daleithiau eraill. Pam na fydden nhw wedi defnyddio pen enwog y ceffyl ar ganolfan newydd ogofau Tito Bustillo? (Yr un lle mae’r darluniau hynafol o anifeiliaid). Pam nad oes na ddim byd yn y siop yn dangos y lluniau’u hunain, dim ond ryw gartŵns? Pam nad oes yno ogof ffacsimili i’r miloedd sy’n methu â chael tocynnau i’r ogof ei hun? Mae cyfeillion sydd wedi bod yn amgueddfa oes y Jiwrasig hefyd yn cwyno bod gormod o ddinosoriaid plastig, er bod plant wedi mwynhau’r lle. Yr un yr wyf i yn hoff ohono yw Canolfan Niemeyer yn Avilés: mae’r adeilad yn wych, felly os gallan nhw ddenu’r torfeydd i’r cyngherddau fe fydd yn llwyddiant drwy’r flwyddyn.

Mae’r tywydd yma mor wlyb, mae pobl yn mynd i hala amser yn y llefydd yma. Ac os byddan nhw’n gadael yn dweud ‘o, roedd e’n iawn’ yn lle ‘roedd hynna’n grêt’, ddôn nhw ddim yn ôl, na chwaith argymell y lle i’w ffrindiau.

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: