Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 27, 2011

Cyfeilles

Bydd hwn yn gofnod anodd a phersonol, ond un rwy’n gobeithio fydd yn cyffwrdd â’r darllenydd. Mae cyfeilles imi, ffrind ers dyddiau’r ysgol uwchradd, yn marw. Canser sydd arni. Canser o’r iau, wedi lledu i’w hasgwrn cefn. Nawr, dyw canser yr iau ddim yn gyffredin: yn ôl y ffigyrau diwethaf yr wyf i wedi eu cael, o’r 300,000 yn y DU sy’n cael gwybod bob blwyddyn bod canser arnyn nhw, dim ond 3000, 1%, sydd â chanser yr iau.

Mae hi eisoes wedi triniaeth lawfeddygol i dynnu asgwrn o’i chefn, yr un oedd wedi ei ‘fwyta’ gan y canser, ond eto heb ddechrau triniaeth yn erbyn y prif ganser. Ar ôl y driniaeth gyntaf honno, doedd hi ddim yn gallu eistedd lan yn y gwely na chodi ei thraed fodfedd o’r gwely. Yn awr, bron i fis wedyn, mae’n cerdded o gwmpas y ward ar ei Zimmer ac yn siarad am fynd adref – gyda chadair olwyn, wrth gwrs. Ond er ei bod wedi gweithio’n galed iawn i ddysgu cerdded eto, mae’n amlwg i bawb na fydd cryfder ewyllys na dyfalbarhad yn ddigon yn erbyn y canser yn yr iau.

Gwaith fy nghyfeilles yn ystod y blynyddoedd diwethaf oedd therapi drama i blant a phobl ifainc gyda phob math o anfantais. Mae nifer ohonyn nhw wedi llwyddo i gael gwaith ym myd y celfyddydau, a llawer un arall wedi dysgu amdanyn nhw’u hunain ac am gymdeithas.

Menyw llawn egni a brwdfrydedd fu fy ffrind erioed, a dyna yw hi o hyd. Rhaid imi fod felly hefyd, er ei mwyn hi.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: