Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 28, 2011

La Piel que Habito: Adolygiad

Mae’r teitl, Y Croen yr wyf yn Byw Ynddo, am unwaith yn grynodeb – o leiaf o un o’r cwestiynau sy’n cael eu trafod yn ffilm diweddaraf Pedro Almodóvar, y cyfarwyddwr Sbaeneg  enwocaf yn y byd tu fâs i’r penrhyn Iberaidd. A ydym ni, ein hunain, yn bod ar wahan i’r corff a’r llun sydd arnom ni? Fydda’i ddim yn disgrifio troeon y ddrama iasol rhag ofn imi sbwylo’r ffilm i’r sawl fydd yn mynd i’w weld e, ond rwyf i yn argymell pawb i fynd i weld e.

Yng nghanol, yng nghalon, y ffilm mae llawfeddyg llwyddiannus (Antonio Banderas, wedi dod yn ôl o Hollywood i weithio gydag Almodóvar unwaith eto) a’r claf/carcharor sydd yn dioddef ei arbrofion wrth geisio creu croen artiffisial, Vera (Elena Anaya, gwyneb newydd imi ond rhywun fydd rwy’n siŵr yn dod yn adnabyddus). Yn raddol, raddol, down i ddeall paham y mae’r doctor yn gwneud hyn, a phwysicrwydd Vera iddo. Cawn glywed ambell i hanes, ambell i esboniad, gan y fam/forwyn y tŷ (Marisa Paredes) a nifer o ôl-fflachiadau. Rhaid cydnabod y byddai’n anodd derbyn digwyddiadau (a chyd-ddigwyddiadau)’r plot onibai bod cryfder a harddwch y ffilm yn ein tywys ni ymlaen, i fewn, yn ddyfnach.

Beth yw’r hunan, yn sicr, yw’r cwestiwn canolog. Ond hefyd y syniad o ddianc – rhag y gorffennol, rhag y presennol, rhag y dyfodol, rhagot ti dy hunan. A hefyd, fel yn rhai o ffilmiau eraill Almodóvar, y perthynas mam/mab. Ac yn hofran yn y cysgodion, o hyd, natur awdurdod a grym, boed yn bersonol neu’n wladwriaethol, sydd yn troi’n ormes: a sut mae dianc o hynny.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: