Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 29, 2011

Heddwch yng Ngwlad y Basg

Mae’r mudiad abertzale, cenedlaetholwyr adain chwith Gwlad y Basg, yn ceisio cael carcharorion ETA i ymbellhau oddiwrth y grŵp terfysglyd a chefnogi Cytundeb Gernika, sydd yn datgan yr angen i roi’r gorau i ymgyrch treisiol a dechrau trafodaethau gyda llywodraeth Madrid am ddyfodol annibynnol i Euskadi. Yn ôl erthygl yn El País, mae hyn yn bosib yn awr oherwydd bod ETA eisoes wedi colli rheolaeth ar y carcharorion – 732 ohonyn nhw ledled Sbaen –  a bod yna nawr fwy o etarras yn y carchar na sydd â’u traed yn rhydd. Yn ôl El País, mae arweinwyr ETA wedi colli hyd yn oed eu hen fframwaith o ddanfon negeseuon at y carcharorion.

Mae’n fy atgoffa o ran hollbwysig carcharorion y ddwy garfan yng Ngogledd Iwerddon cyn ac ar ôl Cytundeb 1998: heb y trafodaethau yn y Maze, a’r penderfyniadau yn y diwedd i gefnogi’r broses heddwch, annhebyg y byddai wedi llwyddo ymysg y gwleidyddion na’r werin bobol.

Ar yr un pryd mae’r abertzale yn paratoi ar gyfer etholiadau cyffredinol Sbaen ym mis Tachwedd. Maen nhw’n gobeithio ail-greu y llwyddiant a gawson nhw drwy Bildu yn yr etholiadau trefol, a pherswadio llywodraeth Madrid i agor trafodaethau. Er mwyn ennill y pwynt yma, maen nhw’n ceisio dangos bod ETA yn gwywo, ac y bydd yn diflannu. Ond dyw gwleidyddion y ddwy blaid fawr ddim eto wedi dangos mymryn o newid yn eu hagwedd nhw tuag at y peth, gan fynnu bod rhaid distrywio ETA gyntaf oll.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: