Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 31, 2011

O Flaen y Camera

Wel dyma dro ar fyd. Daeth galwad drwy un o’r cyfeillion yn gofyn imi ymddangos ar deledu Asturias, mewn rhaglen nodwedd fydd yn cynnwys nifer o guiris – tramorwyr – sydd wedi dod i fyw yma ac yn edrych ar beth sy’n wahanol am ein cartref newydd ni. Yn ôl beth rwyf yn deall, mae’r rhan fwyaf o enghreifftiau sydd gyda nhw yn byw yn y dinasoedd, felly bydd fy 7 munud bach i yn disgwyl yn wahanol iawn.

Sianel cyhoeddus yw TPA, sy’n darlledu’r rhan fwyaf o’r amser yn Sbaeneg, gyda pheth yn Astwreg (ond wrth gwrs bod pobl yn y rhaglenni newyddion yn aml iawn yn ateb cwestiynau yn Astwreg, a dydyn nhw ddim yn cael eu cyfieithu – sy’n awgrymu bod disgwyl i bobl ddeall Astwreg.) Byddaf i, e.e., yn siarad Sbaeneg, ond yn defnyddio geiriau Astwreg yn naturiol fel rhan o hynny.

Rwyf i am geisio cynnwys dau thema: y gwahaniaeth rhwng cefn gwlad Asturias yn awr a’r ardal wledig yng Nghymru lle ges i fy magu, ond hefyd rhwng Asturias a Llundain lle bues i’n gweithio am flynydde…ym myd teledu. Wedi paratoi fframwaith, wedi siarad â chwpl o gymdogion fydd yn fodlon cymryd rhan: beth all fynd o’i le? Cewch chi wybod ddydd Llun nesaf. Ond gobeithio na fydd hi’n bwrw glaw, oherwydd mae rhestr hi o leoliadau awyr agored gyda fi – yr ardd, y clogwyni, y traeth – a ‘chydig iawn o dan do.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: