Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 1, 2011

Haf Bach Hyfryd

Cyrraedd yn ôl neithiwr i dywydd gorau’r flwyddyn hyd yn hyn. Wrth gerdded i lawr grisiau’r awyren yn Santander roedd y gwres bron â’m cynnal i, mor wahanol oedd e i Stansted ddwyawr ynghynt.

Sy’n golygu wrth gwrs mod i wedi mynd i nofio heddiw, i ymdrochi yn y môr oedd am unwaith yn dawel, a dim ond ychydig o deuluoedd ifainc (plant o dan oedran ysgol) a hen bobol y pentref yn rhannu’r traeth. Moeth melys – mwy, mwy, mwy!

Ond cyn hynny rhaid oedd ymrafael á gardd a lleuarth oedd wedi cael eu hesgeuluso am bythefnos. Y planhigion mewn potiau wedi colli blodau a dail, y pŷs wedi cwympo ar ben y betys cochion, nam bach yn y sustem dwrhau wedi gadael y tomatos yn sychedig ofnadwy. Dim ots, roedd digon o domatos hyfryd coch, pupurod enfawr gwyrdd, pŷs a ffa Ffrengig, i’n cadw ni am wythnos neu ddwy.

Newyddion mawr y diwrnod oedd cwymp y cnau Ffrengig cyntaf. Mae hyn yn fis o flaen y llynedd, ac roedd y llynedd yn gynnar o’i gymharu â blynyddoedd cynt. Rheswm arall dros lladd gwair y gwaelod er mwyn gallu’u casglu nhw’n well. Os gewn ni ddiwrnod neu ddau eto o dywydd sych a heulog, gydag ychydig o awel, fe ddôn nhw i lawr yn eu cannoedd.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: