Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 2, 2011

O’r Gegin – Marmalêd

 

Er gwaetha’r gwres. bu’n rhaid imi hala amser yn y gegin y prynhawn yma yn gweithio marmalêd. Roeddwn i wedi gwneud bron i 3k o farmalêd lemwn ychydig fisoedd yn ôl, yn ystod y gwanwyn, ond roedd ymwelwyr yr haf wedi cymryd ato o ddifri a sdim ar ôl.

Ac wrth baratoi’r ffrwyth, fe ddysgais i rywbeth am lemwns: yr adeg yma o’r flwyddyn, mae’r welydd (waliau) sydd rhwng pob adran y tu fewn i’r ffrwyth yn gryf ofnadwy. Y tro diwethaf, roedd cael ‘cig’ y ffrwyth bant o’r rhannau gwyn yn eithaf hawdd: y tro yma fe gymrodd yn hir, ac roedd y sudd wedi cyffwrdd â phob toriad bach ar fy nwylo cyn y diwedd.

Fel hyn mae mynd ati:

1.5k lemwns – mae’n werth prynu rhai organig achos fydd y gwêr sydd ar y rhai rhad byth yn dod bant yn iawn.

1.7k siwgr gwyn

1.7l dŵr

Mae tipyn bach o sinsir yn dda hefyd, wedi ei falu’n fân

Yn gyntaf, tynna’r croen melyn yn stribedi tenau – mae teclyn bach fel hwn, y zester, yn gwneud y tro i’r dim. Wedyn mae’r gwaith hir yn dechrau. Mae angen torri’r tu fewn melyn bant o unrhyw beth gwyn – y rhan sydd o dan y croen, ond hefyd y canol, ac fel y dywedais i, y welydd rhwng yr adrannau.

Mae’r cwbl yn mynd i sosban fawr gyda’r dŵr, a hefyd yr hadau a pheth o’r gwyn mewn bag bach mwslin, yn dod i’r berw ac yna’n eistedd ar fflam isel am awr nes bod y croen wedi meddalu.

Tynna’r bag mwslin, ychwanega’r siwgir,  a berwi fe am 15-20 munud. Mae’r rysait sydd gyda fi yn gofyn am ei adael yn y sosban am hanner awr wedi hynny. Dwi ddim yn gwybod pam, a wnes i fe unwaith heb y gorffwys bach ac roedd e’n iawn.

Mewn i’r jarau a’i adael i oeri.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: