Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 3, 2011

Cinio’r Cymdogion

Croeso i’r bobol sydd wedi ymweld â’r blog ‘ma drwy ddolen Gwobrau Blog Cymru yn enwedig os taw newydd-ddyfodiaid ych chi. Gobeithio bydd pawb yn cael rhywbeth at ei ddant ac yn dychwelyd.

Rydym ni wedi treulio’r diwrnod cyfan fwy neu lai yn bwyta, yfed gwin a choffi, a gwneud cerddoriaeth o ryw fath gyda llwyau a photeli. Cinio i drigolion y pentref, o dan y to pabell rhwng yr eglwys a’r hen ysgol – rhag ofn y glaw, na chyrhaeddodd wedi’r cwbl. Un o’r achlysuron hynny lle mae rhywun yn cael cyfle i fwyta cig oen sydd wedi pori ar laswellt a pherlysiau’r pentref am wyth mis, wedi ei ladd yn lleol, ac wedi eu coginio’n araf bach ar harnau, am oriau.

Dyma fe’r cogydd yn torri’r cig at y ford: roedd y blas yn rhywbeth y byddaf yn ei gofio am byth dwi’n meddwl, yn felys ac yn gryf ac yn dyner ar y pryd.

A dyna sut yr aeth hi wedyn: cerddoriaeth o gar un o’r crwts a phawb yn ymuno gyda llwy neu beth bynnag oedd wrth law.

Ym mha wlad arall mae cinio canol dydd yn parhau tan 11.00 y nos?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: