Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 4, 2011

Yr Ochr Dywyll

Rwyf i wedi ysgrifennu droeon am harddwch mynyddoedd Asturias ac am y bobl sy’n dal i fyw mewn pentrefi bychain ar eu hyd. Yr wythnos hon fe gawsom ein hatgoffa bod y bywyd hwnnw ar ddechrau’r 21fed ganrif yn gallu bod yn un anodd, a hyd yn oed diflas.

Ganol wythnos, fe gafwyd hen fenyw o bentref Inguanzo yn y Picos de Europa ar fin marw ar lawr ei chartref. Roedd hi wedi dioddef sawl ergyd i’w phen gan hof. Bu farw yn yr ysbyty ychydig oriau wedyn; erbyn hynny roedd ei chymydog, dyn 20 mlynedd yn iau na hi, wedi mynd at yr heddlu o’i wirfodd. Dywedodd cymdogion eraill wedyn eu bod nhw wedi bod yn ffraeo dros leoliad y ffin rhwng ei thir hi a’i dir ef.

A ddoe ym mhen arall Asturias, yn y gorllewin, fe gafwyd hyd i gorff ffarmwr mewn caban ar ei dir ei hun, wedi derbyn ergydion i’w ben. Mae ei frawd, oedd yn byw yn y caban fel meudwy, ac yn ôl y papur ‘ddim mewn ystad meddyliol perffaith’ wedi diflannu.

Nid parc gwyliau yn unig yw’n ‘paradiso‘ ni, fel y’i gelwir. Mae hefyd yn rhywle lle mae pobl yn byw, gyda’u teuluoed, gyda’u cymdogion, a weithiau gyda’r holl broblemau sy’n gallu codi o’r perthnasau hynny.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: