Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 5, 2011

Diwrnod i’r Cyfryngau

Wel bois bach dyna chi ddiwrnod. Roedd hi fel mynd yn ôl i’r hen fywyd, cyn imi ddarganfod Asturias. Roeddwn i eisoes wedi cytuno i ffilmo gyda TPA, teledu Asturias, ar gyfer eu rhaglen nhw ar dramorwyr sy’n byw yma, ac fe gyrhaeddon nhw – dim ond awr yn hwyr.

Rhuthr wedyn i wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn deall ein gilydd ynglŷn â’r lluniau a’r siarad. Diolch byth ei fod yn ddiwrnod hyfryd o ran tywydd, yn heulog ond gydag ychydig o gymylau, y golau’n berffaith. Buom ni yn yr lleuarth, ac yn y gegin, ac ar y teras, cyn mentro mâs i esbonio dipyn ar y llwybr i’r traeth sydd wedi ei gau a’r ymgyrch sydd gan y trigolion i’w ail-agor.

Unwaith eto, sicrhau bod popeth gyda ni, a bant i’r lleoliad nesaf. Yn ystod y daith, galwad gan newyddiadurwraig ifanc  a gwrddais yn ystod fiestas yr haf yn gofyn cele hi ddod i wneud sgwrs gyda fi’r prynhawn hwnnw! Wel man a man cael nhw i gyd mâs o’r ffordd yr un diwrnod felly cytuno wnes i.

Roedd y lleoliad olaf, bar traeth y Guadamia, yn cynnwys plateidiau o percebes (chwith) a pulpo (de) – inni a’r cyfeillion, roedd y criw wedi hen fynd erbyn hynny.

Ac yna y sgwrs ar gyfer y papur: yn cyffwrdd â phob dim o’r tomatos i’r etholiadau sy’n dod ym mis Tachwedd. Bydda’i’n falch iawn o gael gorffwys yfory. O na, mae cyfeillion yn dod i gael cinio yfory – wel, gorffwys drannoeth te.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: