Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 6, 2011

O’r Gegin: Cinio o’r Ardd

Mae’n 7.30 y nos, mae’r lleuad yn codi uwch y mynydd i’r de a’r haul eto heb fachlud. Drwy’r dydd cawsom ni dywydd heulog braf gydag ond ychydig o gymylau bach gwynion yma a thraw. Diwrnod bendigedig i fynd i’r traeth i ymdrochi? Ie, ond roeddem ni eisoes wedi gwahodd cyfeillion i ginio.

Bant â ni i’r dre felly i brynu bara da a ham, cyn ailgydio yn y ddadl ynglŷn â’r fwydlen. Yn y diwedd, rhyngddom ni wnaethom ni ryw fath o fwydlen-profi-popeth, a ganlyn:

Cawl Ciwcymber – yn oer, yn ysgafn, gyda phersli, cennin sifis ac amgwyn, a bara saim

Ffigys (y cyntaf o’r flwyddyn) wedi eu Lapio mewn Ham a’u rhostio

Bara Lawr a Chig Moch

Aubergines a Courgettes wedi eu Grilio

Cig Moch Rhost gyda Tomatos a Brenhinllys mewn Salad, Tato a Betysen Goch

Caws Gamoneu

Taten Fale (rhodd gan y gwesteion, roeddem ni wedi bwriadu cynnig mafon 3 ffordd – yn ffres, mewn sorbe ac mewn saws)

Wel am brynhawn o siarad yn ddifyr am bob math o bethau dros y ford.

Dim ond y golchi llestri sydd ar ôl!

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: