Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 9, 2011

Ffrwythau Cochion

Well imi ymddiheuro i bawb sy’n darllen hwn ar dywydd gwael, ond fan hyn yn nwyrain Asturias mae’r haf bach annisgwyl yn parhau. Heddiw fe gyrhaeddodd y dymheredd 28 gradd – gormod o lawer imi; bu’n rhaid cysgodi yn y tŷ am ddwyawr am ei bod yn rhy boeth i wneud unrhyw beth tu fâs.

Gwir gyfoeth y ddaear yr oeddwn yn ei weld heno wrth fynd o gwmpas i gasglu: y cochion sy’n cael y lle blaen gyda dau fath o domato, ambell i bupur bach, a mafon di-ri. A dweud y gwir mae’r lleuarth yn darparu cymaint o bethau da y dyddiau hyn bod y fenyw sy’n gwerthu llysiau yn y farchnad wedi gofyn a oeddwn yn mynd bant achos dim ond orennau, bananas ac afocados wnes i brynu ganddi.

Mewn newyddion eraill o’r ardd ffrwythau: mae’r ffigys yn dod yn fwy niferus bob dydd, a’r afalau a’r cwins yn dod yn eu blaen yn iawn. Ond mae llawer iawn o ffrwythau wedi cwympo o’r caci tra’u bod nhw’n dal yn anaeddfed. Efallai bod eisiau dŵr ar y goeden.

Bant â fi i’r traeth yn awr i olchi llwch yr ardd i ffwrdd.

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: