Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 10, 2011

Celf, Arian, Gwleidyddiaeth

Dim ond dweud cymaint yr oeddwn yn hoffi’r Ganolfan Niemeyer ac mae’r cweryla ffyrnicaf wedi dechrau ynglŷn â’i dyfodol.

Mae llywodraeth Asturias o dan arweinyddiaeth Francisco Alvarez-Cascos wedi cyhuddo’r sefydliad sy’n rhedeg y ganolfan o fethu â chadw cyfrifon cywir. Yn fwy na hynny, maen nhw’n honni bod arian mawr – hyd at filiwn o euros –  wedi ei wario ar bethau fel teithio a llety heb gadw’r biliau. Mae’r sefydliad yn gwadu pob cyhuddiad, ac yn dweud nad oes neb wedi gofyn iddyn nhw am gael gweld y biliau. Ac mae’r ffaith taw yn Aviles, yr unig un o ddinasoedd mawr Asturias sydd yn dal yn nwylo’r PSOE sosialaidd, y mae’r ganolfan, wedi arwain at awgrymiadau bod Cascos yn gweithredu oherwydd gwleidyddiaeth yn hytrach na cheisio adfer nam.

Yn fy marn i fe fyddai’n drist ofnadwy petai unrhyw beth yn niweidio dyfodol y ganolfan, boed hynny’n ffaeleddau cyfrifon neu’n frwydr wleidyddol. Ond mae un peth wedi dod yn glir o ddarllen yr hanesion. Roeddwn i’n methu’n lân â deall pam fod y Niemeyer wedi ei dewis fel yr unig le yn Ewrop i weld perfformiad Richard III gan Kevin Spacey a chwmni’r Old Vic o Lundain. Rwy’n gwybod yn awr bod Kevin Spacey yn aelod o bwyllgor ymgynghorol y ganolfan, ynghŷd ag enwogion eraill gan gynnwys Woody Allen a Stephen Hawking. Bydd e yma cyn diwedd y mis felly:  beth fydd ei ymateb e, tybed?

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: