Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 11, 2011

Peth Hyll mewn Lle Hardd

Mae pawb wedi mynd adref.  Hyd yn oed y bobol oedd yn gallu ymestyn eu gwyliau tan ddiwedd wythnos gyntaf mis Medi, ar eu ffordd heno. Wrth eistedd ar y teras, clywed dim ond adar a chlychau’r gwartheg. Ces i ddiwrnod yn y gegin, a roeddwn i yn golygu ysgrifennu am hwnnw, ond rwyf i wedi fy nghythruddo gymaint gan ymddygiad di-feddwl person neu bobol anhysbys, daeth newid meddwl.

Gyda’r hwyr, aethom ni i lawr i’r clogwyni, achos roeddem yn gallu clywed y tonnau o’r tŷ, yn towlu’u hunain at y graig. Roedd e werth ei weld: dim gwynt, y tywydd yn fwyn, dim ond pŵer y môr sy’n creu’r tonnau anferth yma. (Maen nhw siŵr  o fod wedi cael digon o amser i fagu cryfder ar y ffordd ar draws yr Iwerydd.)

A dyna lle’r oeddem ni, yn mwynhau’r amgylchedd naturiol hyfryd, pan welais i hwn:

Ie, bag plastig yn llawn o olion bwyd. Pa fath o bobol, wir, sy’n credu ei bod hi’n iawn gadael rhywbeth fel ‘na ar y glaswellt, mewn man lle mae adar ac anifeiliaid eraill yn gallu ei dorri, gam lyncu darnau o blastig a chael niwed? Heb sôn am y ffaith ei fod yn rhywbeth hyll mewn lle hardd.

A’r hyn sy’n ei wneud yn waeth fyth yw bod y cyngor lleol wedi darparu biniau ac yn eu gwacau nhw – ryw 50m yn unig o’r bag hwn.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: