Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 14, 2011

Coginio i’r Eithaf

Ddechrau’r haf, wedi blino aros am yr hindda ac eisiau’n diddanu’n hunain, fe aethom ni a’r cyfeillion ati i baratoi lluniau o bethau annisgwyl mewn llefydd cyfarwydd.

Ar wahân i’r ford smwddio, fe welwyd cyfansoddiadau oedd yn troi pyllau bach yn yr heol yn byllau nofio, a bual bach tseini wedi ei saethu heb orwel nag unrhyw beth yn y llun oedd yn datgelu’i wir faint.

Ond yn awr mae un o cocineros – cogyddion – adnabyddus Asturias wedi mynd ati i wneud y peth yn gwbl groes i hynny. Mae e wrthi ar gyfres o ymweld â llefydd sy’n bell o fod yn gegin er mwyn paratoi clasur y gegin Astwraidd, y fabada. Stiw o gig moch, chorizos a fabes (ffa mawr gwyn yr ardal) yw e, ac wrth eiatedd fan hyn rwy’n gallu clywed arogl y fabada y mae’r gŵr yn paratoi at yfory.

Mae’r cogydd eisoes wedi gwneud ei fabada ar lan y môr: heddiw mae e i fod ar ben graig anferth Pico Urriellu, neu’r Naranjo de Bulnes yn ôl y llyfrau taith.

  Bydd yn cael cymorth mynyddwyr i ddringo 500m i ben y Pico, ac yna bydd yn defnyddio ffwrn fach i baratoi ei bryd. Mae sawl fersiwn o’r rysait wrth gwrs ac mae’n wahanol o un cwm i’r llall.

Ond fel arfer mae’n cynnwys cig hallt, cig mewn selsig, pwdin gwaed, y cwt a’r clustiau. Mae’r clustiau, yn enwedig. i fod yn flasus iawn, ond ches i erioed gyfle i’w fwyta – maen nhw wastod yn diflannu fel eira Mai.

Ar ôl camp heddiw, mae’r tîm am fynd i lawr un o’r pyllau glo sydd ar ôl i wneud yr un peth. Mae’r syniad o goginio mewn pwll glo yn swnio’n fwy peryglus imi nag ar ben mynydd, ond efallai y bydd rhwyun yn fodlon rhoi caniatâd iddyn nhw,  dim ond i gael cyhoeddusrwydd.

Beth bynnag, rwy’n siŵr y bydd yr un y byddwn ni’n ei fwyta nos yfory yr un mor flasus.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: