Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 15, 2011

Chwedl y Clesin

Wel gobeithio y byddaf yn llwyddo i orffen y cofnod hwn: mae’n storom tyrfe a lluched o gwmpas y tŷ a sawl toriad wedi bod ar y trydan yn barod.

Yn gyntaf, dylwn nodi bod y cogydd (cofnod ddoe) wedi llwyddo i wneud ei blât o fabada ar ben Pico Urriellu, a bod llawer o gonan yn awr am wastraff arian, diffyg parch tuag at yr amgylchedd, ayyb. Ond yn awr, at y berllan.

Mae gyda ni ddwy goeden clesin (hen air am gwins, yn ôl y geiriadur – amser i’w adfer?) ym mhen pella’r cae isaf. (Termau eto: cae? Yn bendant dyw hi ddim yn lawnt.) Eleni ma’r ddwy yn llawn ffrwyth, a fel hyn y byddwn yn dymuno eu gweld nhw, yn ffrwythau mawr crwn neu siâp gellygen ac yn felyn cryf.

Yn lle hynny, bob blwyddyn mae llawer ohonyn nhw yn dechrau pydru, naill ai ar ochr y rhan dewaf neu yn y craidd, yn olion y blodyn. Es i ati felly i ddarllen am y broblem a gweld a oedd modd ei datrys.

Ches i ddim byd yn Gymraeg, ond ar wefan yr RHS mae ‘na ddisgrifiad syml o sut y mae’r pydru’n dechrau.

Mae’r broblem i’w gweld yn glir ar y ffrwyth uchaf ar y dde. Beth sy’n digwydd, yn ôl yr RHS, yw bod aderyn neu bryfyn yn gwneud twll y mae’r ffwng gelyniaethus yn defnyddio i fynd i mewn. Nawr dyw’r adar ddim yn cyffwrdd â’r clesin hyd nes eu bod nhw’n troi’n felyn, felly dyma benderfynu casglu nhw cyn bod hynny’n digwydd, neu pan fydd e ar fin digwydd.

Mae’r cwins yn dal i aeddfedu ar ôl cael ei dynnu o’r brigyn, felly byddaf yn eu dodi nhw ar hen dywel mewn stafell sy’n wag ar hyn o bryd, a’u gadael am 6 wythnos (cyngor yr RHS eto) i weld beth ddigwyddith.

Gyda llaw mae’r paragraffau diwethaf  ‘ma wedi eu hysgrifennu ryw awr yn ddiweddarach.   Nid toriad trydan yma, ond ryw nam ar y cyswllt rhyngom ni a’r gyfnewidfa. Hei ho, byw yn y wlad.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: