Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 16, 2011

Dedfryd ‘Aelodau ETA’

Ar ôl dwy flynedd o garchar ac achos llys hir, mae Arnaldo Otegi, un o arweinwyr y Chwith Abertzale yng Ngwlad y Basg, wedi derbyn dedfryd o ddeng mlynedd. Wna’i grybwyll ffeithiau’r achos, ond yr hyn sy’n bwysig yw’r dadansoddiad y mae’r naill ochr a’r llall yn rhoi ar y ffeithiau. Cofnod arall ar yr achos yma.

Fe’i gafwyd yn euog o fod yn aelod o ETA, h.y. o fod yn derfysgwr oedd yn, neu yn barod i, ddefnyddio  dulliau trais er mwyn ennill annibyniaeth i Wlad y Basg. A hynny am ei fod yn rhan o Bateragune, (man cyfarfod, yn euskera, iaith y Basg). Dywed yr erlyniad, a gwladwriaeth Sbaen, taw is-grŵp i ETA oedd hwn, yn dilyn gorchmynion arweinwyr ETA. Dyw Otegi na’i gyd-ddiffynyddion ddim yn gwadu eu rhan yn Bateragune, ond maen nhw’n dweud eu bod yn ceisio hybu achos y cenedlaetholwyr drwy weithio mewn ffordd newydd a di-drais.

Dwi ddim yn credu bod neb wedi disgwyl dedfryd mor hir: mae’r lehendakari (llywydd Cymuned Awtonomig Gwlad y Basg), sydd yn aelod o’r PSE sosialaidd, wedi ei ‘dderbyn’ ond hefyd wedi dweud ei fod yn gwybod y bydd llawer yn ‘synnu’ neu’n teimlo ‘rhwystredigaeth’.

Ac mae Otegi ei hun wedi galw ar genedlaetholwyr i gadw at lwybr heddychlon, taw dim ond felly y bydden nhw’n ennill. Mwy ar wefan Proses Heddwch y Basgwyr.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: