Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 17, 2011

Paid Afradu dy Fwyd

Yn enwedig os wyt ti wedi ei dyfu yn y lleuarth!

Ar ôl y pythefnos heulog sydd wedi bod roedd hi’n amser symud y wynwns o’u lle ar y corredor – y balconi sy’n wynebu’r de – a’u dodi nhw yn y cuadra – sied – dros y gaeaf. Yno byddan nhw mewn tywyllwch ond gyda thipyn o aer achos nid gwydr sydd yn y ffenestr ond sgrîn pryfed.

Wrth eu casglu, sylweddolais bod rhai – ychydig – yn dechrau pydru, naill ai o’r canol neu un haenen i fewn o’r tu fâs. Rhoddais i nhw o’r neilltu, a’r bore ‘ma bûm yn llefain drostyn nhw yn y gegin wrth eu sgleiso. Bydd y darnau da yn mynd i ddwy darten, un gyda’r gwynion a’r llall y cochion.

Tro’r ffa bach Ffrengig wedyn.

Nid pydru yw’r broblem fan hyn, ond sychu gormod i rywun allu fwyta’r goden yn gyfan. Eu hagor nhw a gweld sut siâp sydd ar y ffa tu fewn – fel y triage maen nhw’n gwneud mewn unedau brys ysbytai. Mae’r rhai sy’n dal yn wyrdd golau yn cael eu berwi fel pŷs, y rhai llwydwyn yn aros ar yr hambwrdd i sychu rhagor cyn eu cadw, a’r rhai sydd yn dangos smotiau brown yn cael mynd i’r domen gyda’r codau.

A dyna’r bore wedi mynd heibio. Nid gwastraffu amser, ond osgoi gwastraffu bwyd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: