Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 19, 2011

O’r Ardd:Tymhorau ar Chwâl

Diwrnod braf heddiw, diwrnod yn yr ardd flodau a’r lleuarth. Mae mis Medi wastod yn rhyw gymysgfa o waith yno: llawer iawn yn barod i’w cynaeafu, ond wrth fy mod i’n gwneud hynny, roedd y gŵr yn brysur tynnu’r hen blanhigion, troi’r pridd a dodi compost ac yn barod am y nesaf. Wir mae’r cennin bach maint pensil wedi eu plannu mâs, a’r ffa llydan (cyntaf – byddwn ni’n hau 4 gwaith i gyd) mewn disgl o ddŵr yn aros eu tro.

Dyna mae rhywun yn ei ddisgwyl. Ond eleni, gan ein bod ni wedi cael gwanwyn sych, haf gwlyb ac oeraidd ac yna haf bach anhygoel, mae pethau od ar droed. Mae’r cnau Ffrengig yn cwympo dair wythnos o flaen eu hamser – nid hanner dwsin ond bwcedi ohonyn nhw. Mae’r coed oren wedi blodeuo eilwaith, a gan fod gwenyn yn dal o gwmpas gobeithio y byddwn ni’n gweld mwy na’r nifer pitw o ffrwyth sydd arnyn nhw nawr. Mae hyd yn oed yr hortensias wrth y gât yn ceisio dod â blodau eto, er bod yr hen rai sychion yn dal yno.

Ac os gewn ni hydref cymharol sych a thwym, mae lle i gredu y bydd y courgettes a’r ffa bach – a hyd yn oed y mafon – yn dal i ddod am fis i chwech wythnos eto. Er gwaethaf trychineb y tato a’r wynwns felly, byddwn ni’n dal i fwyta’r rhan fwyaf o’n llysiau o’r ardd dros y gaeaf.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: