Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 22, 2011

Pigion Anifeilaidd

Yn dilyn cofnod ddoe, daeth yn amlwg heddiw bod yr ecolegwyr yn barod i fynd ar eu pennau i ganol y llif cyhyd ag y mae dyfodol yr eog yn y cwestiwn. Yn eu barn nhw, mae’r pysgotwyr yn gwneud mwy o niwed i boblogaeth yr eog a’r sewin yn afonydd Asturias na’r cannoedd o geufadau sy’n eu defnyddio. Mae nhw am weld gwaharddiad gyfangwbl ar bysgota eogiaid, neu o leiaf ar eu cymryd nhw o’r afon a’u lladd. Nid cweit beth oedd y llywodraeth wedi disgwyl.

Mae helwyr anifeiliaid pedwar troed wrthi eto gan i’r tymor hela ceirw a baeddiaid gwyllt ddechrau. Rhaid cydnabod nad yw’r olaf mewn perygl o ddiflannu: bob blwyddyn mae cannoedd yn cael eu lladd ond eto mae rhywun yn dal i’w gweld ar y mynydd – nhw neu olion eu traed wedi distrywio porfa wrth chwilio am fwyd. Dros y Sul, yn nwyrain Asturias yn unig, fel laddwyd dros gant o faeddiaid, rhai ohonyn nhw’n pwyso dros 80k.

Ar nodyn mwy gobeithiol, mae adran amaeth y llywodraeth am weld cynnydd yn nifer y cychod gwenyn yng nghefn gwlad Asturias. Mae’r nifer sydd wedi eu cofrestru wedi mynd lan yn raddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac o flasu’r mêl byddai pawb eisiau gweld ei dyblu eto.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: