Diwrnod o niwl. Bore hyfryd a dweud y gwir, ond erbyn inni gyrraedd yn ôl o’r farchnad wythnosol yn Posada roedd yr awyr las wedi ei gorchuddio â chymylau tywyll, ac o fewn yr awr roedden nhw’n gorwedd ar hyd y mynyddoedd (h.y. dim ond 600m uwchben y tir gwastad lle rydym ni’n byw) fel blanced enfawr o wlangotwm. Mor dew, eu bod yn gwthio’r tymheredd i lawr ryw 5-6 gradd; diffyg heulwen yn gwneud i hynny deimlo’n oerach fyth.Ar ddiwrnod fely heddiw mae rhywun yn cydymdeimlo gyda’r trueinaid hynny sy’n dioddef poen meddwl pan na chân nhw ddigon o olau naturiol.
Mae cyfeillion yn cyrraedd yr wythnos nesaf i fwrw ychydig ddyddiau yn Asturias as eu ffordd i Ffrainc, felly roedd y tywydd yn esgus dros ddechrau ar y glanhau. Dyw glanhau tŷ ddim yn destun teilwng i flog: mae gwneud y peth yn ddigon heb orfod sôn amdano fe wedyn. Felly dyma lun o aber y Guadamia i godi calonnau pawb.
Ar yr ochr draw fe welir un o’r bufones yn saethu dŵr i’r awyr. Dim ond gobeithio y bydd rhyw rym fel nerth y môr yn newid y tywydd erbyn yfory, achos mae gyda ni un o’r prydau pentrefol yn yr awyr agored. Fydd hi ddim gymaint o hwyl os bydd pawb yn eistedd yno yn eu dillad tywydd drwg.
Gadael Ymateb