Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 24, 2011

Carcharorion ETA o blaid Heddwch

Cyrhaeddodd y datganiad y bu pawb sy’n dilyn ymgyrch cenedlaetholwyr Gwlad y Basg yn aros amdano. Mae mwyafrif (dim ond rhyw 70-80 wnaeth ymatal rhag arwyddo) o’r 732 o garcharorion sydd o dan glo am droseddau yn ymwneud â bomio, saethu, neu hyd yn oed bod yn aelodau o ETA, wedi dweud yn blaen eu bod nhw o blaid Cytundeb Gernika. Maen nhw’n addo cadw ymlaen â’r ymgyrch  i ennill annibyniaeth i Wlad y Basg, ond yn dweud y byddan nhw’n cefnogi ‘hyd yr eithaf’ y llwybr tuag at hynny drwy ddulliau ‘gyfangwbl ddemocrataidd a heddychlon’.

Er mwyn deall pwysicrwydd penderfyniad y carcharorion, does ond rhaid darllen ymateb y llywodraeth yn Madrid. ‘Cam pwysig’ meddai’r llefarydd – sy’n gryfach na’u hadwaith i unrhyw ddatganiad gan y mudiad Abertzale na neb arall o fewn yr ymgyrch. Ni chafwyd datganiad eto ar raddfa Sbeinig gan y PP, sy’n debyg o ennill yr etholiadau nesaf ym mis Tachwedd. Ond fe ymwrthododd eu llefarydd yng Ngwlad y Basg â chroesawu neges y carcharorion, gan ddweud taw’r unig gam o bwys fyddai diflaniad ETA.

Os daw mwy, fe fyddaf yn diweddaru’r blog ‘ma heno. Ond am y tro, bant â ni i eistedd yn y niwl a bwyta cinio gyda nifer fawr o’r cymdogion.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: