Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 25, 2011

Yr Eglwys v y Bobl

Mae’r hanes heddiw yn dod gan un o newyddiadurwyr ifainc yr ardal, Patricia Martínez, ac fe ymddangosodd yn y papur La Nueva España. Bydd ymwelwyr cyson yn cofio fi’n sôn o’r blaen am yr anghydfod a’r conan sy’n gallu datblygu rhwng pentref a’i offeiriad. Ond mewn un pentref bach yn y mynyddoedd mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth.

Ddoe fe gerddodd trigolion Pandiello mewn gorymdaith ar hyd stryd y pentref. Roedd rhai wedi gwisgo’r dillad traddodiadol, eraill yn cario’r ramo o fara a llun eu nawddsant: ond llun wedi’i baratoi ar frys ydoedd, ac ni chynhaliwyd offeren yn yr eglwys fach. Yn wir, roedd yr eglwys fach wedi’i chloi, a’r offeiriad yn bell i ffwrdd.

Arian oedd asgwrn y gynnen. Roedd yr offeiriad wedi mynnu bod yr arian fyddai’n cael ei dalu gan y sawl oedd yn prynu’r ramo ar ôl yr offeren i gyd yn cael ei roi i’r eglwys. Ond roedd y trigolion wedi arfer ers blynyddoedd â thalu peth o gostau’r fiesta gydag arian y ramo.

Ac mae’r offeiriad yn dal ei dir, gan ddweud bod pobl Pandiello yn anufudd, yn cymryd arian na ddylen nhw ac yn gwyrdroi ystyr y rhodd (o arian) y mae e’n dweud sy’n eiddo i’r eglwys. Felly hefyd y bobl, sydd yn barod yn trefnu i gael llun gwell o San Tomas ar gyfer gorymdaith fiesta 2012.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: