Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 26, 2011

Lladd Teirw ar Chwarae

Efallai bod rhai eisoes wedi darllen yn y cyfryngau am yr ornest ‘ddiwethaf un’ o ymladd teirw yn Catalunya, a gynhaliwyd neithiwr yn Barcelona. Mae dau brif reswm dros waharddiad llyodraeth Catalunya, y Generalitat: mae llai a llai o bobl yn ymddiddori yn y lidia, fel y’i gelwir, a hefyd roedd yn ffordd hawdd a chlir i ddangos bod gwahaniaethau mawr rhwng Catalunya a Sbaen.

Yn ôl yr hyn a welais i ar y teledu roedd hi’n noson i’w chofio, ar ba ochr bynnag o’r ddadl yr wyt ti’n sefyll. Lliwiau gwisgoedd yr ymladdwyr, lliwiau baneri a phosteri, a sŵn anghredadwy yn dod o’r dorf y tu fewn a’r tu fâs. Maer dinas Nîmes yn Ffrainc wedi dod yr holl ffordd yno i gefnogi’r arfer o ymladd teirw.

Y ffaith yw wrth gwrs bod ‘na bobl yn Catalunya sy’n dilyn y corrida, nid hanner cymaint ag yn Madrid nac yn y de. Ac erbyn hyn, mae’r niferoedd sy’n prynu tocynnau (drud!) wedi gostwng: dywed y grwpiau sy’n ymgyrchu yn erbyn yr arfer taw dim ond arian cyhoeddus sy’n cadw’r peth i fynd. Mae’r traddodiad felly yn diflannu o wirfodd y bobl; well ganddyn nhw weld gêm o bêldroed na corrida ar y teledu. A gan ei fod yn draddodiad creulon sy’n achosi poen i’r anifail cyn ac wrth ei ladd, onid nawr yw’r amser i ffarwelio am byth ag ef?

Dywed perchennog cae’r teirw yn Barcelona, gyda llaw, ei fod yn disgwyl y bydd ymladd eto yno. Fe ddwedodd wrth bapur La Vanguardia nad oedd e eto wedi cytuno termau iawndal gyda’r llywodraeth, a bod ganddo naw mis arall i wneud hynny.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: