Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 27, 2011

Godro’r Geifr (a’r Gwartheg)

Heddiw wnaethom ni dalu €30 y kilo am gaws. Ond caws arbennig iawn, rhaid dweud. Roedd cyfeillion wedi sôn am y fenyw oedd yn dal i fyw yn ôl yr hen arfer, yn symud lan i’r hafod yn y Picos de Europa ym mis Mai ac yn aros yno ‘tan ddaw’r eira’ fel y dywedodd hi heddiw. Mae’n byw mewn caban twt a destlus iawn, un ystafell iddi hi a’r llall i’r da byw pan fyddan nhw eisiau bod dan do.

Bydd y gwartheg a’r geifr yn cael eu godro ddwywaith y dydd o fis Mehefin, pan fydd y lloi a’r mynnod yn cael eu gwerthu, tan fis Medi pan fydd y tarw neu’r bwch gafr yn dod i wneud ei waith ef. Bydd hi’n gwneud caws bob dydd ac yn rhoi’r dyddiad arno:

caws mynydd ffoto:cathasturias

Caws y 5ed o Orffennaf yw hwn, ac yn flasus iawn hefyd. Flynyddoedd yn ôl roedd 150 o pastores – y bobl sy’n gofalu am yr anifeiliaid ac yn gweithio’r caws – ar y rhan hon o’r mynydd. Dim ond pedwar sy’n dal i weithio yn y ffordd draddodiadol, yn mygu’r caws dros dân o goed ffawydd. (A hynny yn y stafell lle mae’r pastor  yn cysgu!)

mygu'r caws ffoto:cathasturias

Doeddwn i erioed wedi blasu caws Gamoneu o’r mynydd, ac roedd yn hollol wahanol i’r un (hefyd yn dda) sy’n cael ei wneud i lawr yn y dyffryn. Roedd blas holl berlysiau di-gemegau’r Picos yn cydfynd â’r llaeth yn hyfryd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: