Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 28, 2011

Haf (Bach) Mihangel 2011

Flwyddyn i’r diwrnod ers imi sgrifennu cofnod am haf bach Mihangel, dyma ni eto â’r haul yn gwenu arnom drwy’r dydd. Dyw hwnna ddim yn hollwir: y bore ‘ma roedd sut drwch o niwl na fedrwn ddim gweld stryd ganol y pentref o gefn y tŷ. Ond fe gododd erbyn 10.30 ac ers hynny mae’r paneli haul wedi bod yn gweithio’n galed. Ninnau hefyd, ar wahân i ryw awr fach gymerais i i fynd i lawr i’r traeth i ymdrochi. Neb yno! Y bae yn eiddo inni’r trigolion o’r ddwy ochr unwaith eto a’r dŵr yn gynnes.

Wrth gerdded ar hyd y lonydd bach, a meddwl am yr haf bach, fe sylwais i o’r newydd mor bwysig mae’r mis o desni wedi bod i lawer i beth byw. Mae blodau wedi ymddangos eilwaith (hyd yn oed ar y coed afalau), mae’r pili-palas yn rhuthro o gwmpas y lle ac yn dawnsio mewn parau gwallgof, ac mae mwy o fadfallod i’w gweld nag ar unrhyw achlysur eleni. Oherwydd y tywydd drwg gynt, dyma’r unig gyfle iddyn nhw gyflawni ‘cynllun eleni’ – bwyta’n hael a chenhedlu. A’r tro yma rydym ni wedi cael mis cyfan o’r haf bach.

Mae hyd yn oed y twristiaid wedi ymestyn eu tymor: ddoe roedd y lle parcio wrth Llyn Ercina yn orlawn. Ond bydd y prifysgolion yn dechrau yn ystod y dyddiau nesaf, a dim ond y di-waith a’r ymddeoledig fydd â’r amser (os nad yr arian) i fynd ar grwydr.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: