Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 30, 2011

Llundain yn dod i Asturias

24 awr o ddwy ran hynod annhebyg. Buom ni drwy’r prynhawn heddiw yn gweithio yn y lleuarth, yn casglu ac yn torri ac yn gadael pethau’n ddestlus. Mae cyfeillion yn cyrraedd yfory, ac eraill mewn wythnos, felly fydd ddim gymaint o amser gyda ni i arddio.

Ond roedd hynny ar ôl taith fach sydyn i ddinas Avilés, ar ochr orllewinol Asturias. Roeddem ni wedi cael tocynnau i Richard III, mewn cynhyrchiad gan theatr yr Old Vic o Lundain, a Kevin Spacey oedd yn chwarae’r brif ran. Dim ond am bedwar diwrnod maen nhw yma, pob tocyn wedi ei werthu mewn un diwrnod, a llawer o’r seddi wedi eu cadw i ddisgyblion ysgolion uwchradd. Rhaglenni am ddim hefyd!

Doeddwn i erioed wedi gweld Spacey ar lwyfan: mae’n bwerus. Hyd yn oed o’n seddi ni, yn y rhan ganol ond reit yn y gwt, roedd yn bosib teimlo uchelgais treisgar y Richard hwn. Ond hefyd rhywbeth comig, camp bron. Dyna lle’r oedd e, yn cynllwynio ac yn lladd i fod ar ben y byd – ac unwaith yr oedd e wedi cael rhywbeth, y foneddiges Anne er enghraifft, yn ei dibrisio a bron yn gofyn ‘ai dyna’i gyd yw e?’

Mor braf wedyn oedd gadael y theatr, cerdded yn ôl i’r gwesty, a wedyn penderfynu mynd mâs eto i far bach lle buom ni’n gwrando ar ganeuon gwerin Asturias tra’n eistedd yn yr awyr agored. O na byddai’n haf o hyd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: