Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 1, 2011

Cam tuag at Annibyniaeth?

Wythnos yn ôl fe gyhoeddodd carcharorion ETA o fwyafrif llethol eu bod yn newid llwybr  ac yn barod i ymgyrchu dros annibyniaeth Gwlad y Basg drwy ddulliau heddychlon yn unig. Yn awr mae adain wleidyddol ETA, Ekin, wedi cyhoeddi hunanddiddymiad.

Mae’r llywodraeth yn Madrid wedi croesawu’r newyddion, fel ‘cam arall’ tuag at ddiwedd ETA a’r ymgyrch o derfysg sydd wedi parhau hanner can mlynedd. Ar hyn o bryd mae’r PSOE, sy’n llywodraethu, yn cynnal ei chynhadledd blynyddol, a hynny ryw 7 wythnos cyn yr etholiad cyffredinol. Y tŷb cyffredin yw bod y PSOE, er ei bod yn drwm yn erbyn y terfysgwyr, yn barod i siarad am ddyfodol Gwlad y Basg ac o rannau eraill o’r penrhyn Iberaidd. Ond y grêd yw hefyd na fyddan nhw ddim yn ennill yr etholiad. Byddai cael cyhoeddi diwedd ETA yn derfynol yn hwb mawr i’w hachos. Hyd yn hyn dyw’r PP, sydd yn debyg o ennill yr etholiad, ddim wedi dweud ei barn. Ond bydd rhai yn cofio eu bod nhw wedi rhuthro i feio ETA am y bomiau gorsafoedd trên nôl yn 2004, a bod llawer yn credu bod hynny wedi achosi buddugoliaeth y PSOE bryd hynny.

Yn ystod yr wythnos hefyd, fe gyhoeddodd y lehendakari , llywydd cymuned Gwlad y Basg, ei fod yn chwilio am ffordd i ddod â charcharorion ETA i garchardai’n nes at eu cartrefi, yn lle’u bod nhw ar wasgar ledled Sbaen. Diddorol gyda llaw bod y cyfryngau castellano (iaith Sbaeneg) yn defnyddio geiriau fel lehendakari ac abertzale yn lle ceisio’u cyfieithu nhw.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: