Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 2, 2011

Amgylchedd ac Arian

66-0! Dyna ffordd i ddechrau diwrnod gyda newyddion da o Gwpan Rygbi’r Byd. Tywydd poeth yma eto, yn rhy boeth i rai, ond yn berffaith ar gyfer y traeth. Mae’n afon fach ni yn ymdroelli rhwng clogwyni ac ar wely o dywod, ond mae’r Sella, sydd llawer yn fwy, wedi creu morfa sy’n cynnwys gorlifdir eang.

Dyma ran isaf morfa Ribadesella, a chyn bo hir mae gobaith y bydd y rhan uwchlaw yn edrych rywbeth yn debyg. Mae awdurdodau Asturias wedi cymeradwyo cynllun i gael gwared â chlawdd a greuwyd i gadw’r afon o fewn terfynau a defnyddio’r gwastatir i dyfu llysiau. Wedyn bydden nhw’n clirio’r holl blanhigion di-gynefin a phlannu rhai brodorol. Y gobaith yw y bydd adar dŵr a môr yn dychwelyd i fyw tymhorau yno. Nid yn unig y byddai hynny’n beth da i’r amgylchedd, ond hefyd yn denu twristiaid i’w gweld nhw.

Eisoes wrth gwrs mae pobl yn gofyn pwy sy’n mynd i dalu am y gwaith, ond mae eraill yn gweld y buddiannau a allai ddod o ddatblygu twristiaeth arbenigol y tu fâs i fisoedd yr haf.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: