Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 4, 2011

Y Mynydd Sych

Yn gyntaf, pwt o newyddion y plwyf: dyw’r blog yma ddim wedi ei gynnwys yn rhestr fer Gwobrau Blog Cymru. Ond mae dwsenni o bobol wedi dilyn y ddolen oedd ar dudalen eu rhestr hir nhw ac am wn i maen nhw’n dal i gyrraedd yn achlysurol.

Yma, mae’r tesni’n parhau, er bod y tymheredd wedi disgyn fymryn ers ddoe, pan aethom ni i ardal Sotres yn nwyrain y Picos de Europa. Ganol dydd roedd hi’n rhy dwym i gerdded, felly ar ôl cael bwyd mewn bar ym mhentref Sotres anelsom ni tuag at Aliva, ar lwybr yr wyf i wedi ei ddisgrifio o’r blaen.

 

Mor wahanol oedd hi’r tro yma! Y tirwedd yn hollol sych a dim dŵr o gwbl yn adran uchaf afon Duje. Ond roedd y gwartheg a’r geifr yn dal i bori, ar wahân i’r rhain:

Fe welsom ni’r praidd hwn am y tro cyntaf y tu fâs i Sotres, ac yna dair awr a hanner, a 15km, yn ddiweddarach ar heol Arenas de Cabrales. Wedi dod i lawr bron i 700m ond trueni drostyn nhw yn y gwres. Roedd y geifr yn dechrau edrych yn anfodlon iawn (yn fwy nag arfer).

Nodyn bach arall am y blog: ychydig iawn o bobl sy’n gadael unrhyw sylw. Rwyf i fy hun yn euog o hynny hefyd, ond yn bwriadu gwneud mwy.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: