Nôl ym mis Mai fe gafodd Asturias lywydd newydd. Canlyniad yr etholiadau – heb fwyafrif i PSOE na PP – oedd bod plaid newydd Foro Asturias wedi ffurfio llywodraeth leiafrifol. Arweinydd, sefydlwr, y blaid honno yw Francisco Alvarez-Cascos, fu gynt yn weinidog yn llywodraeth Aznar (PP) yn Madrid.
Byrdwn ei ymgyrch oedd bod Asturias yn cael ei anwybyddu gan y ddwy blaid fawr Sbeinig ac y byddai ef wastod yn rhoi’r dalaith yn gyntaf. Hyd yn hyn, yr hyn y mae e wedi gwneud yw diddymu swyddi gweision suful a chanslo ambell i gynllun cyhoeddus.
Heddiw, fe ddaeth yn amlwg na fydd ei lywodraeth yn talu’r gweddill o’r arian sydd yn ddyledus i RTPA – cwmni cyhoeddus radio a theledu Asturias. Mae RTPA mewn bodolaeth ers 8 mlynedd, ond mae wedi tyfu yn ystod y cyfnod hwnnw i gynnwys 2 sianel deledu yn ogystal â radio. Mae arian eleni wedi ei gytuno gan hen senedd Asturias, cyn yr etholiadau, fel rhan o’r gyllideb, ond mae’n cael ei dalu’n fisol, ac yn ôl y cwmni fe beidiodd Cascos â thalu ym mis Awst.
Mae’n edrych yn debyg y bydd y cwmni’n gorfod cau rhannau o’i wasanaeth ar unwaith, a’r cwbl os na fydd y gwrthbleidiau’n llwyddo i rwystro bwriad Cascos i newid y ddeddf sy’n gwarantu bodolaeth RTPA. Fe all hynny olygu bod 700 o bobl yn colli’u swyddi: yr union fath o swyddi technegol sydd eu hangen mewn talaith fel Asturias lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud gwaith dwylo.
A dyma dwi’n credu yw gwir athroniaeth wleidyddol Cascos: torri nôl ar weithgareddau cyhoeddus. Y wladwriaeth yn llawer llai, disgwyl i bawb i wneud pethau drostynt eu hunain. Dim cweit beth ‘wedodd e yn ystod yr ymgyrch,
Swnio fatha boi neis….
By: Rhys on Hydref 5, 2011
at 3:55 pm