Mae archaeolegwyr yng Ngwlad y Basg wedi darganfod benglog bual a fu farw 20,000 o flynyddoedd yn ôl. Dyma’r math o fual sy’n ymddangos mewn lluniau yn ogof Altamira yn Cantabria, a’r tro cyntaf i benglog cyfan gael ei ddarganfod yn y penrhyn Iberaidd. Bu far’w anifail wrth gwympo i fewn i sima – twll dwfn (maen nhw’n gallu mynd i lawr gannoedd o fetrau) yn y garreg galch. Roedd ei gyrn yn mesur dros fetr o un pen i’r llall. Deos dim sicrwydd eto ble bydd y benglog yn cael ei arddangos.
Dylwn i nodi fan hyn nad yw ogof Altamira ar agor i’r cyhoedd o gwbl tan o leiaf flwyddyn nesaf. Yn ôl eu gwefan maen nhw’n disgwyl trefnu rhywbeth bryd hynny, ond am y tro, yr amgueddfa yn unig yw hi.
Yma yn Asturias, mae toriadau’r llywodraeth newydd wedi codi ansicrwydd drod ddyfodol un cynllun mawr arall yn ymwneud â’r cyfnod cynhanes. Roedd pethau ar y gweill i godi amgueddfa Neandertal, yn agos i un o’r llefydd mwyaf pwysig y math yma o bobol. Does dim llawer i’r ymwelydd lleyg ei weld yn yr ogof ei hun, ond mae’r arbenigwyr wedi dysgu lot am ffordd o fyw y Neandertal. Yn awr mae’n edrych yn debyg y bydd rhaid cael arian o’r sector breifat os am fynd ymlaen gyda’r cynllun.
Gadael Ymateb