Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 8, 2011

Asturias Wag

Mae’r ystadegwyr wrthi eto. Na, dwi ddim yn mynd i sôn am gêm Wellington (hwrê!!!) ond am boblogaeth Asturias. Tua’r amser hyn y llynedd, fe gyhoeddwyd amcangyfrif y byddai Asturias yn colli 35,000 o bobl dros y degawd nesaf. Yn awr maen nhw’n proffwydo colled o 40,000 dros y cyfnod hwnnw. Ac yn y cyfamser maen nhw wedi diwygio’r ystadegau ar gyfer y nifer sy’n byw yma nawr: 1,055,000 yn lle 1,180,000. 125,000 wedi diflannu eisoes!

Naill ai wedi marw neu wedi allfudo i wledyddd eraill neu ddinasoedd mawr Sbaen. Mae’r mewnfudwyr yn dal i ddod, a’r disgwyl yw y byddan nhw’n gwneud yn y dyfodol hefyd, ond dydyn nhw ddim yn grŵp niferus. Ar y cyfan fe fydd poblogaeth Asturias yn hŷn ac yn dlotach nag yw hi nawr.

Mae arna’i ofn y byddwn ni’n gweld llawer mwy o luniau fel hyn oni fydd y sefyllfa economaidd yn dechrau gwella yn sydyn ac yn gryf. Fel arall bydd y bobl ifainc sydd wedi graddio yn gadael a’r gweddill yn gohirio cael plant am nad ydyn nhw ddim yn gallu fforddio nhw.

‘Na gyd sydd gyda ni yw’r tir a’i gynnyrch. Tir cynnyrch crai fu Asturias erioed: coed, cerrig, glo, dŵr, cig, pysgod, llysiau. Mae dal angen y pethau hyn, ond rhaid chwilio am ffyrdd newydd i’w cynhyrchu a’u trin er mwyn ennill arian a creu gwaith.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: