Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 9, 2011

Llwybr Newydd

Mae cynllun i gael llwybr ar hyd arfordir Asturias i gyd, a mae’r rhan i’r dwyrain o’n pentref ni wedi ei chwblhau yn ddiweddar. Wedi blino ar waith yr ardd y prynhawn yma, fe benderfynom ni brofi’r daith, gan gerdded o fan hyn i draeth hyfryd Cuevas del Mar  – Ogofau’r Môr – ryw 6km i ffwrdd.

Roedd pawb bron wedi gadael erbyn inni gyrraedd, ond roedd hi’n dal yn ddigon twym i eistedd yn llewys ein crysau y tu fâs i’r chiringuito – bar tymhorol y traeth. Ond doeddwn ni ddim yn gallu aros yn hir, achos roedd yn rhaid cerdded adref cyn iddi nosi.

Mae’r llwybr ei hun yn un hawdd, yn ddigon llydan a digon o arwyddbyst. Mae’n dringo ac yn disgyn dipyn, ond dim byd rhy serth – perffaith i’r bobl sydd ddim wedi arfer â cherdded yn bell. A dweud y gwir mi fyddai’n syniad da danfon y pererinion ar hyd y llwybr yma yn lle ceisio dilyn y Camino de Santiago, achos yn ein hardal ni mae hwnnw’n mynd ar hyd heolydd a thrwy corsydd a mieri.

Roeddem ni’n dal yn gallu gweld ein traed wrth gyrraedd golau stryd eto, a’r awyr yn amrywio o liw bricyll i liw hocys. Ond o fewn munud neu ddwy roedd hi wedi tywyllu.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: