Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 10, 2011

Byw yn y Mynydd

Cyfweliad diddorol yn y papur heddiw gyda warden caban Urriellu, yng nghanol mynyddoedd uchaf y Picos de Europa. Boi lleol yw e, wedi bod yn warden ers 30 mlynedd a newydd ennill medal am ei ran yn achub pobl o’r mynyddoedd. Dyma rai o’r pethau sydd ganddo i’w dweud, a’m ymateb innau:

‘Mae digon o le yn y Picos. Tri lle yn unig sy’n llenwi (a gorlenwi) a hynny yn ystod yr haf yn unig: y Llynnoedd, llwybr Cares, a’r Pico Urriellu (yn ymyl y caban). Mae’r gweddill yn wag.’  Mae hyn i gyd yn cydfynd â’n profiad ni wrth gerdded llwybrau llai adnabyddus ond yr un mor diddorol.

‘O ran twristiaeth, mae angen datblygu teithiau i weld adar neu blanhigion, neu ddringo.’ Cytuno 100%: mae hyn yn rhywbeth fyddai’n dod ag ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.

‘O ran damweiniau, wrth gwrs bod angen mwy o wybodaeth a hyfforddi ar bawb sy’n cerdded neu’n dringo. Y cerddwyr sy’n cael y damweiniau rhan fwyaf, yn aml iawn dim mwy na llithro neu fynd ar goll.’  Wel ie, os bydd mwy o bobl yn mynd i fwy o lefydd mae pethau’n mynd i ddigwydd. Byddai mapiau gwell yn helpu hefyd.

A dyma fe’r Pico Urriellu, mewn llun wedi ei dynnu o bentref bychan Carmameña uwchlaw man dechrau llwybrau’r Cares a Bulnes. Digon i ddenu unrhyw un i’r Picos.

Advertisements

Responses

  1. Dylet gael dy dalu gan Fwrdd Croeso Asturias am yr holl flogio yma yn hyrwyddo’r ardal!

    Rhaid i mi ddweud, cyn dod o hyd i dy flog di, roedd Asturias oddi ar fy ‘radar’ am lefydd hyfryd i’w hymweld a nhw, a hyd yn oed rwan, pan yn pori drwy adranau teithio papurau trymion Llundain (Guardian/Observer fel arfer), mae digon o son am ardaloedd eraill Sbaen, ond byth son am Asturias. Mae llawer o’r erthyglau’n cael eu noddi gan lywodraeth (ganolog) Sbaen hefyd.

    • A mewn ffordd, diolch byth nad oes llawer yn gwybod am fodolaeth Asturias! Eisiau tyfu’n raddol y mae’r diwydiant ymwelwyr fan hyn, nid fod yn ‘llecyn y flwyddyn’ mewn rhyw bapur Sul. Fyddai hi ddim yn siwtio pawb, ond i bobl sydd yn hoffi pethau gwyllt a bwyd da, hen draddodiadau a bywyd tawel – ac yn barod am dipyn o law – mae’n haeddu bod ar frig y rhestr.

      • Wel ia, gall ymwelwyr fod yn felltith yn ogystal a bendith.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: