Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 11, 2011

O’r Ardd: Cymoni

Dim jolihoetian i’r traeth na’r mynydd heddiw; rywsut fe wnaethom ni sylweddoli na all y tywydd hafaidd yma parhau am byth, a bod ‘na rai pethau y mae’n rhaid eu cyflawni cyn y gaeaf. Tocio’r hortensias oedd fy ngwaith i:

Mae 15 ohonyn nhw i gyd, ac roedd y blodau wedi sychu ers tro byd, felly hen bryd torri nôl cyn y tywydd oer. Sdim eisiau torri’n ormodol. chwaith, achos mae’r blagur cyntaf wedi datblygu’n barod, ond rwy’n ceisio’u cael nhw i lawr i uchder y wal fel eu bod nhw’n cael cysgod rhag gwynt y dwyrain. Mae’r dasg yn fwy anodd oherwydd y cactws enfawr sy’n tyfu yn eu plith nhw: mae angen cadw’n ddigon pell oddi wrth ei bigau, sy’n 5-6cm o hyd.

Ac ar ôl hynny i gyd, bu’n rhaid glanhau’r pafin odanyn nhw. Drwy’r haf roedd habitat bach o fwsogl, gwair a chwyn wedi tyfu yng nghysgod y canghennau isaf. Dwi ddim yn hoff o ladd mwsogl, ond pan fydd yn tyfu fel hyn ar y pafin sy’n arwain at y gât, a hynny’n ddigon serth mewn mannau ac yn gallu mynd yn llithrig, roeddwn i’n teimlo bod rhaid. Fel arfer byddaf yn gwisgo siaced a het yn erbyn y tywydd wrth docio’r hortensia, ond dim eleni.

Mwy o chwynnu i orffen y diwrnod cyn mynd at rywbeth sy’n fwy o bleser: casglu ffa bach i swper.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: