Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 13, 2011

Sut i Golli Cyfeillion

Chwi gofiwch imi ysgrifennu nôl ym mis Awst am gynlluniau llywodraeth newydd Asturias i newid statws y blaidd fel bod helwyr yn cael ei saethu. Maen nhw dal o blaid hynny, ond unwaith eto wedi llwyddo i godi nyth cacwn a digio’r rhai oedd yn eu cefnogi. Y syniad diweddaraf yw y bydd yr helwyr yn gorfod talu’r iawndal i ffermwyr am y da byw sy’n cael eu lladd gan fleiddiaid.

Mae hyn wrth gwrs wedi cynddeirogi’r helwyr, naill ai am eu bod yn gweld yr hyn maen nhw’n ei dalu am drwyddedau yn ormod heb sôn am dalu ffermwyr, neu am nad ydyn nhw eisiau hela bleiddiaid (‘smoch chi’m gallu bwyta nhw, ych chi?) a dim yn gweld pam ddylen nhw dalu. Mae’r ffermwyr  yn amau y bydd yr helwyr hyd yn oed yn arafach wrth dalu iawndal nag yw’r llywodraeth, a’r ecolegwyr yn mynnu lle’r blaidd fel aelod o ecosustem y Picos de Europa na ddylid ei hela.

Rwy’n disgwyl clywed unrhyw ddiwrnod eu bod nhw’n ailfeddwl, ac am gynnal trafodaethau gyda phawb…yn union fel y gwnaethon nhw gyda’r cynllun i wahardd ceufadau o afonydd yr eog.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: