Sut beth yw byw mewn gwlad yng nghanol argyfwng economaidd? Wel mae’n dibynnu i ddechrau a wyt ti’n bersonol yn dioddef, a rhaid dweud nad ydyn ni ddim. Dydyn ddim yn chwilio am waith nac yn ddibynnol ar y wladwriaeth am arian. Roedd darllen heddiw am israddio gwerth dyled Sbaen yn swnio ar y cychwyn fel rhyw newyddion o bell. Ond wrth gwrs dyw e ddim.
Mae problemau Sbaen yn cael eu gweld yn fwyaf amlwg yn y miliynau o bobl ifainc sy’n ddiwaith ac yn alltud, ond hefyd yng ngweithgareddau’r cymunedau awtonomig, hyd yn oed y rhai mawr pwerus fel Catalunya neu Wlad y Basg. Yma yn Asturias, cymuned dlawd sy’n colli poblogaeth a diwydiant bron yn ddyddiol, mae’r llywodraeth Foro Asturias o dan lywyddiaeth Cascos yn gwneud ei gorau i arbed arian, gan ddiswyddo miloedd o weision suful; gwrthod talu am RTPA, y cwmni teledu lleol; a gohirio nifer o gynlluniau mawr cyhoeddus.
Mae’r Foro hefyd yn ceisio cymryd drosodd Canolfan Niemeyer yn Aviles, cyfuniad o theatr, oriel a neuadd gyngerdd ar safle’r hen ddociau. Ar hyn o bryd does na ddim byd i’w weld yn y Niemeyer, dim ond yr adeilad, yn dilyn penderfyniad Cascos i beidio â rhoi’r eiddo ar lês hir i’r Ganolfan fel y rhagwelwyd yn y cynllun gwreiddiol. Mae hyn yn siom imi ac i filoedd o bobl eraill sydd wedi mwynhau mynd i’r Niemeyer ac wedi cael nifer o brofiadau gwerthfawr ym myd y gelfyddydau yno – popeth o’r blues i Shakespeare.
Ond efallai na chân nhw bopeth eu ffordd eu hun: maen nhw newydd golli pleidlais yn y senedd ac mae’n bosib y bydd rhaid iddyn nhw dalu wedi’r cyfan.
Gadael Ymateb