Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 17, 2011

Dyddiau Haf yn Dirwyn i Ben

Diwrnod olaf ein haf hirfelyn tesog (gan ymddiheuro i’r dyniadon ynfyd) oedd hi heddiw. O ‘fory ‘mlaen, bydd y glaw yn dychwelyd yn drwm am dridiau a’r tymheredd yn disgyn yn barhaol i rywbeth tebycach i hydref arferol – 15-18C yn lle 24C. Yn yr ardd a’r lleuarth y buom ni felly yn cwblhau rhai o’r dyletswyddau sy’n llawer haws ar dywydd braf: tynnu’r planhigion pwmpen sydd wedi dibennu a throi’r pridd, hau rhes arall o ffa llydan ac un o arlleg. Rhywbeth newydd inni yw hau garlleg cyn diwedd y flwyddyn, ac roedd un o’r cymdogion wrth gerdded heibio yn amau’n fawr a fyddai’n llwyddo. Ond roedd yn rhaid iddo yntau dderbyn bod y tywydd wedi newid ers dyddiau ei blentyndod ac yn dal i newid.

Bryd hynny roedd cael rhew dros nos yn ystod Tachwedd a Rhagfyr yn rhywbeth i’w ddisgwyl, a sawl un yn credu bod y coed ffrwythau’n well o’r herwydd. Erbyn hyn prin iawn yw’r boreau gwynion.

Rydym ni hefyd wedi palu mâs y ddau lwyn oedd byth yn blodeuo, a ‘fory rwy’n gobeithio cael fuchsia bach gan gymydog sydd â llond perth ohonyn nhw.

A nawr rwy’n mynd i gasglu ffigys, achos fydd dim pwynt gwneud hynny ar ôl y glaw.

 

Advertisements

Responses

  1. We saw many beautiful fuchsia hedges in County Kerry last May; they seemed to thrive in a rainy coastal climate, so perhaps in Asturias as well?


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: