Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 18, 2011

Troi’r Byd ar ei Ben

Neu o leiaf y penrhyn Iberaidd. Tra’n bod ni yn Asturias yn dal i aros am y glaw a addawyd, fe gofnodwyd yn Alicante, ym mhen pellaf de Sbaen, yr unig law ddoe. Mae cronfeydd dŵr y canolbarth a’r dwyrain, sydd fel arfer yn isel yr adeg yma o’r flwyddyn, wedi eu llenwi hyd at 60% a mwy. Ym mynyddoedd y gogledd, Galicia, Asturias a Cantabria, llai na’r hanner.

Mae pawb yn credu y daw’r glaw, achos mae’r tymheredd wedi disgyn a’r cymylau wedi gorchuddio’r haul. Yfory efallai.

Tan hynny, dyma beth welsom ni ddoe, yn y ffigysbren, lle mae nifer helaeth o’r ffrwyth yn dechrau pydru cyn bod neb yn gallu’u cymryd nhw:

Vanessa atalanta, y fantell goch, yn cael hwyl ar sudd i ffigys sy’n eplesu. Maen nhw’n hedfan o gwmpas mewn heidiau i’r goeden ac yn ôl, lawr i’r llawr a nôl lan i’r ffrwyth. Cael sbri, weden i.

Diolch i Gymdeithas Edward Llwyd am yr enw ‘mantell goch’ o’u llyfr ‘Gwyfynod, Gloynnod Byw a Gweision Neidr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: