Rydym ni newydd gyrraedd yn ôl o Casa Antón, bar a bwyty’r pentref, lle cawsom ni ginio bob dydd ond eto’n anarferol iawn. Diwrnod y desarme yw hi heddiw, ac fel mae’r enw yn awgrymu, dathlu diwedd cyfnod arfog yr ydym.
19 Hydref 1836 welodd ddiwedd Rhyfel 1af y Carlistas yn Uviéu/Oviedo, prifddinas Asturias. Ie, nôl ym 1836 hefyd, roedd pobl Sbaen yn lladd ei gilydd mewn rhyfel cartref, eto i benderfynu rhwng traddodiad (y Carlistas, dilynwyr y Tywysog Carlos) a rhyw fath o ryddfrydiaeth (dilynwyr y frenhines Isabel). Roedd hyd yn oed y ffaith ei bod hi, fel menyw, wedi etifeddu’r goron yn cythruddo’r Carlistas.
A byddin y Carlistas gafodd ei hela o byrth y ddinas y diwrnod hwnnw, a’r trigolion ers hynny wedi dathlu gyda bwyd oedd bryd hynny’n ddrud:
Penfras mewn saws gyda garbanzos (gwygbys) a sbigoglys
Treip wedi ei dorri’n fân mewn saws llawn pupur
Pwdin reis
Wel fe weda’i yn blwmp ac yn blaen nad y dreipen yw un o’m hoff gigoedd, ond roedd y penfras yn flasus iawn.
Erbyn hyn mae’r dathlu wedi lledu ar draws y dalaith, ond dathlu rhy fuan a wnaethon nhw, achos fel y dywedais ar y dechrau, dim ond y cyntaf o ryfelau’r Carlistas oedd hwn. Yn wir roedd llawer o’r dynion a frwydrodd ar ochr Franco yn ystod Rhyfel Sbaen yr 20fed ganrif yn eu cyfri eu hunain yn Carlistas, gyda’r slogan ‘Duw, Mamwlad, Brenin’. Ac roedd mwyafrif llethol pobl Asturias yn erbyn y rheiny hefyd.
Gadael Ymateb