Maen nhw wedi llwyddo i’w wneud e ‘to. Mae llywodraeth Asturias, llywodraeth leiafrifol y blaid ‘daleithgar’ Foro Asturias o dan arweinyddiaeth Francisco Alvarez-Cascos, wedi cyhoeddi mesurau un ar ôl ei gilydd sydd wedi cythrudddo pawb sy’n ymwneud â’r sector neu’r weithgaredd dan sylw.
Y tro yma pysgotwyr yr eog sydd yn conan ac yn proffwydo diflaniad y pysgodyn hwnnw o afonydd Asturias o fewn 4 blynedd oherwydd y rheolau newydd – llawer mwy llac – sydd wedi eu cyhoeddi.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pysgota eog wedi bod o dan reolau llym: 5 diwrnod yr wythnos yn unig, 6 wythnos o’r tymor yn gorfod dodi’r pysgodyn yn ôl yn yr afon yn holliach, a dim ond 3 i gael eu dala mewn diwrnod gan un pysgotwr. Fe fyddai’r cynllun newydd yn cael gwared ar bob un o’r rheolau hyn.
Bydd y cwbl yn destun trafod yfory rhwng y Weinyddiaeth a’r clybiau pysgota, ond mae pump o’r saith clwb eisoes wedi gofyn am ei ddileu.
Beth dwi ddim yn deall yw paham mae Cascos a’i griw yn ymddwyn fel hyn, yn erbyn ewyllys y bobl sydd fwyaf tebyg o bleidleisio i’r Foro, a hynny fis cyn etholiad cyffredinol lle bydd y blaid yn sefyll. Mae’n awgrymu nad ydyn nhw’n deall dymuniadau eu hetholwyr, er gwaethaf yr holl addewdion am roi ‘Asturias yn Blaenaf’.
Gadael Ymateb