Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 23, 2011

Etholiad yn Nesáu

Gyda llai na mis tan yr etholiadau cyffredinol, mae’r pleidiau’n dechrau dweud lle maen nhw’n sefyll. Y disgwyl yn gyffredinol yw y bydd y PP (ceidwadol, o blaid undod Sbaen) yn ennill mwyafrif; nid yn gymaint am fod pobl yn ysu’u gweld nhw’n llywodraethu ond bod y PSOE (sosialaidd, yn edrych yn fwy ffafriol ar wahaniaethau, ond yn y bôn eto’n blaid Sbeinig) wedi llywodraethu drwy gydol yr argyfwng economaidd a sdim byd wedi gwella.

Wyth o aelodau o Asturias fydd yn cael eu hethol yn diputados (yn y siambr is). 4 o’r PSOE a 4 o’r PP oedd hi’r tro diwethaf. Nodyn i’r rhai sy’n hoff o’r pethau hyn: rhestrau caeedig a dull d’Hondt sy’n cael eu defnyddio yma. Mae hyn yn golygu bod y person sydd ar ben rhestr un o’r ddwy blaid fawr yn mynd i ennill ei le.

Bydd y comiwnyddion (IU) yn sefyll wrth gwrs, a hefyd y tro yma Foro Asturias Ciudadanos, plaid daleithgar sydd mewn grym yn y senedd gymunedol. Bydd yn ddiddorol gweld a fydd etholwyr yn barod i rhoi pleidlais i FAC ar lefel Sbeinig. (Gyda llaw mae nifer o bobl wedi pwyntio mâs taw FAC yw llythrennau blaen enw’i harweinydd hefyd: Francisco Alvarez-Cascos.)

Byddaf yn dod yn ôl at yr etholiadau yma o bryd i’w gilydd, yn enwedig oherwydd y newidiadau pwysig yng Ngwlad y Basg. Rwy’n siŵr bod y PSOE yn gobeithio cael peth o’r clod am gyrraedd sefyllfa lle mae ETA wedi rhoi’r gorau i’r frwydr arfog.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: